Yn 2021, gwelwyd cynnydd yn nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, efo 24,600 mwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg, sef 0.8% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Ar hyn o bryd, mae 883,300 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru gyda 477,100 ohonynt yn siaradwyr Cymraeg dyddiol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda’r weledigaeth o allu defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd.
Dyma five adnodd Cymraeg a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
1. Mozilla Firefox
Erioed wedi bod eisiau porwr gwe yn y Gymraeg? Mae Mozilla Firefox yn cynnig porwr gwe Cymraeg ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Mae’r porwr gwe yn galluogi’r defnyddiwr i ddod yn fwy cyfarwydd â thermau technegol, enwau a disgrifiadau Cymraeg; mae’n caniatáu i swyddfeydd a busnesau bortreadu diwylliant Cymraeg cadarnhaol. Mae chwiliadau yn dal i gael eu cynnal yn yr un modd â phorwr gwe arferol. Mae Mozilla Firefox ar gael i’w lawrlwytho ar ddyfeisiau IOS ac Android yn ogystal â’r bwrdd gwaith.
2. Siarad
Mae Siarad yn gynllun sy’n dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd ar gyfer 10 awr o sgyrsiau anffurfiol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Nod y cynllun yw i gynyddu hyder dysgwyr a chynnig nifer o cyfleoedd iddyn nhw i ddefnyddio’u Cymraeg; gall cyfleoedd ddigwydd ar amrywiaeth o lwyfannau er enghraifft Zoom, WhatsApp, Facetime – beth bynnag sydd fwyaf addas i chi. Mae’r cynllun yn cynnig cyrsiau i ddysgwyr ar lefel Ganolradd, Uwch neu Hyfedr.
3. LibreOffice
Meddalwedd cynhyrchiant swyddfa ffynhonnell agored yw LibreOffice, ac mae’n brosiect gan y sefydliad dielw, ‘The Document Foundation’. Datblygir y feddalwedd gan ddefnyddwyr sy’n credu yn y cysyniad o feddalwedd am ddim a rhannu gwaith heb unrhyw gyfyngiadau. Mae LibreOffice yn cynnwys 6 cydran: Writer (prosesydd geiriau), Calc (rhaglen taenlen), Impress (rhaglen gyflwyniad), Draw (golygydd graffeg), Math (golygu fformiwla) a Base (rhaglen rheoli cronfa ddata); bydd y cymwysiadau hyn yn sicrhau bod unrhyw waith yn edrych yn wych ac yn broffesiynol trwy ei system arddulliau. Ar ben hynny, bydd gan y defnyddiwr reolaeth fwyaf ar y cynnwys a bydd yn gallu allforio ei waith mewn sawl fformat.
4. Cysgliad
Pecyn meddalwedd yw Cysgliad sy’n helpu’r defnyddiwr i wirio sillafu a gramadeg Cymraeg. Mae’n addas i bawb, hyd yn oed siaradwyr Cymraeg rhugl! Mae Cysgliad yn cynnwys dwy raglen: Cysill a Cysgeir; Mae Cysill yn nodi ac yn cywiro gwallau iaith mewn dogfennau Cymraeg. Mae Cysgeir yn gasgliad cynhwysfawr o eiriaduron defnyddiol ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae Cysgliad ar gael i’w lawrlwytho ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith Windows yn unig, ond mae adnoddau amgen ar gael i ddefnyddwyr ISO.
5. Ap Treiglo
Ap treiglo, maent yn ddefnyddiol iawn ar gyfer nodi pryd mae angen treiglo llythyr. Y nod yw i ddefnyddwyr ymgyfarwyddo a magu hyder wrth ddefnyddio treigladau. Mae’r ap yn darparu rheolau’r tri math gwahanol o dreiglad; mae hefyd yn cynnwys geiriadur ar gyfer ddefnydd cyffredinol. Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho ar ddyfeisiau IOS ac Android.